Mae’r brosiect hon yn cyfuno sgiliau gwahanol ysgolheigion sydd yn gweithio mewn astudiaethau lenyddol, daearyddiaeth, archeoleg a hanes i archwilio’r ffurf mae tirwedd drefol, materol a dychmygol, yn creu ac yn cyfleu y syniad o le-hunaniaeth. Dinas Caer yw canolbwynt y brosiect, a hunaniaethau ei phreswylwyr rhwng 1200 a 1500. Agwedd arbennig o’r brosiect yw’r amcan i gyfuno mapiau daearyddol a llenyddol o’r ddinas canoloesol, gan ddefnyddio ffynonellau testunol a chartograffig i ddeall mwy ymateb preswylwyr lleol i’r dirwedd drefol. Un agwedd newydd arbennig yw’r defnydd o dechnoleg digidol i archwilio’r ‘mapiau’ o Gaer y canol oesoedd, er enghraifft trwy ddefnyddio system GIS (System Gwybodaeth Daearyddiol) i greu map o Gaer fel yr oedd tua 1500. Bydd hyn yn fodd i ehangu diddordeb cyhoeddus yn hanes ganoloesol dinas Caer ac astudiaethau canoloesol yn gyffredin drwy gyfuno mapiau a thestunau lenyddol mewn cyfrwng digidol. Bydd y brosiect felly yn ehangu ein dealltwriaeth o’r ffordd y creuwyd y syniad o le-hunaniaeth yn y ddinas ganoloesol drwy gysylltiadau lleol a pherthynasoedd gyda thirweddau materol a dychmygol. Bydd hyn hefyd yn datblygu methodoleg drosglwyddol a modelau i gyfuno ffynonellau digidol, gweledol a thestunol, yn y dyniaethau.

Mae tri cwestiwn crai yn llywio amcanion ymchwil y brosiect:

  1. Sut mae’r ‘mapiau’ llenyddol a daearyddol o Gaer y canol oesoedd (cartograffig a thestunol) yn perthyn i’w gilydd?
  2. Sut roedd tirwedd drefol Caer yn cael ei ddehongli gan y bobl a fu’n ysgrifennu am y ddinas a’i amgylchyddion yn ystod y canol oesoedd?
  3. Sut roedd safle Caer fel dinas aml-ddiwylliannol ar y gororau rhwng Cymru a Lloegr yn ymddangos yn ffurfiant hunaniaethau lleol mewn tirwedd, amgylchedd a hanes?

Bydd y brosiect yn cynhyrchu tri phrif beth, gan gynnwys:

  1. Safle we, sydd yn cynnwys map digidol rhyngweithiol o ddinas Caer, c. 1500. Bydd y map yn cysylltu llefydd gyda testunau sydd yn trafod y ddinas, c. 1200-1500.
  2. Tri phapur ysgolheigaidd gan arweinydd a chyd-archwilwyr y brosiect, yn trafod rhai o’r testunau crai. Bydd y papurau yn archwilio lle, hunaniaeth, trothwyoldeb a chymysgrywiaeth yng Nghaer ganoloesol. Bydd y papurau yn ymddangos mewn casgliad o erthyglau ynglŷn â’r brosiect.
  3. Dau ddigwyddiad lledaeniol: colocwiwm ysgolheigaidd ym Mhrifysgol Abertawe, a gweithdy gyhoeddus yn Amgueddfa’r Grosvenor yng Nghaer.